Thursday 13 October 2011

CYNHADLEDD 'DYFODOL YNNI ADNEWYDDOL YNG NGHYMRU' YN Y GANOLFAN AMGEN, CORRIS DYDD LLUN 17 HYDREF. ERFYNNWN AR FUDIADAU CYMREIG A CHYMRAEG I FYND YNO I BROTESTIO YN ERBYN Y MELINAU GWYNT.






PWYSIG IAWN…PASIWCH Y NEGES YMLAEN…DIOLCH

Annwyl Gyfeillion,

Cynhelir cynhadledd yn y Ganolfan Amgen (CAT) yng Nghorris dydd Llyn nesaf (17 Hydref) I drafod ‘Dyfodol Ynni Adnewyddadwy yng Nghymru’


Ymddengys bod Meistri Cyfalafol y Melinau Gwynt sydd a’u bryd ar ddinistrio tirwedd Cymru yn llwyr a’u melinau gwynt enfawr a ‘da i ddim’ yn pryderu am fod y protestio, sy’n cymryd lle ar hyn o bryd yng Nghymru, yn bygwth eu rheibio ar Gymru - ac oherwydd, meant wedi trefnu’r gynhadledd yma i “gynllwynio” sut i gario’n mlaen a’u gwaith budr o reibio a dinistrio Cymru â channoedd os nad miloedd o felinau gwynt ac mae’n ddyletswydd arnom i gyd, fel Cymru, i fynd i Gorris i fynegi ein gwrthwynebiad cryf i’r rheibio diweddara yma ar ein cenedl.


Gweler y ddolen gyswllt isod sy’n rhoi gwybodaeth am y gynhadledd, y siaradwyr a’r amserlen.





Dyma gyfle gwych o’r diwedd i wynebu’r Cyfalafwyr yma (a’r bradwyr Cymreig sy’n cydweithio â nhw) a dangos nad yw tirwedd gysegredig Cymru ar werth am unrhyw bris ac na fyddem yn caniatáu i gannoedd, os nad miloedd, o felinau gwynt hollol aneffeithiol gael eu gosod ar fryniau a mynyddoedd hyfryd Cymru.


Felly, pa fudiadau Cymreig a Chymraeg fydd yn ymgynnull yng Nghorris Dydd Llun i fynegi eu safiad yn y frwydr bwysig yma i warchod Cymru rhag cael ei rheibio’n llwyr gan Feistri’r melinau gwynt?


Peidiwch da chi a defnyddio’r esgus mai “dim ond y bobl dŵad sy’n poeni am hyn am nad ydynt am gael melinau gwynt wrth ymyl eu cartrefi” Ein gwlad ni yw hon, wedi goroesi o achos dewrder Cymry’r gorffennol - a does gan run ohonom yr hawl i ddiystyru’r aberth hynny drwy wneud dim a gadael i Gymru gael ei dinistrio fel bod dim ar ôl ar gyfer plant ein plant a’u plant nhw unwaith y byddwn wedi ennill y frwydr arall i sicrhau gwaith a chyflog teilwng i bawb yng Nghymru a fydd, yn ei dro, yn fodd o alluogi Cymry'r dyfodol i aros yma, i lenwi ein cymunedau gwag.


Felly, mae dyfodol Cymru fel cenedl ac fel etifeddiaeth i’r cenhedloedd nesaf yn eich dwylo chi. Os ydych am gyfrannu tuag at sicrhau bod Cymru'n goroesi’r bygythiad enfawr yma, dewch i Gorris bore llun i brotestio yn eich lluoedd fel mudiadau, cymdeithasau neu unigolion.


Dewch a digonedd o blacardiau gyda sloganau addas arnynt, dyma rai cynigion:


MELINAU GWYNT. NA! NA! NA!


DIM MWY O REIBIO AR GYMRU


DIM MWY O FELINAU GWYNT YNG NGHYMRU


TYDI TIRWEDD CYMRU DDIM AR WERTH.


CADWCH EICH PAWENNAU BLEWOG ODDI AR EIN BRYNIAU CYSEGREDIG.


Ac, wrth gwrs…


DIM MELINAU GWYNT YNG NGHENEDL GLYNDŴR



COLLWYD ELAN, LLANWDDYN, EPYNT, TRYWERYN, CLYWEDOG AC EFYRNWY A LLAWER MWY, YDYM YN MYND I GOLLI CYMRU? MAE HYNNY I FYNY I CHI A’CH CYDWYBOD!





Siân Ifan