Friday 27 May 2011

Mae pobl Trefaldwyn wedi cychwyn y brwydro ond ble mae'r gweddill o Gymru arni?




1500 o Bobl Trefaldwyn a'u cefnogwyr o rannau eraill o Gymru (yn cynnwys llond dyrniad bach o Bobl Glyndŵr) yn protestio o flaen adeilad y Cynulliad Cymreig dydd Mawrth diwethaf (Mai 24) mewn gwrthwynebiad i bolisi TAN 8 (melinau Gwynt)  y sefydliad hwnnw.



Daeth cnewyllyn bychan o Aelodau’r Cynulliad allan i gyfarfod y protestwyr ac roedd pob un ohonynt, yn ystod eu hareithiau yn cyfaddef nad oeddent wedi gweld protest mor enfawr o flaen ddrysau’r Cynulliad o’r blaen. Yn ogystal, bu i bob un ohonynt gyfaddef nad oedd TAN 8 yn gweithio ac addo i geisio a 'thrawsnewid' y polisi ‘gwallgof’ ond, y gwir amdani yw bod rhaid cael gwared â’r polisi i  osod y Ffermydd Gwynt aneffeithiol ac aneconomaidd yma ar dir Cymru unwaith ac am byth! Yr unig rai sy’n elwa yw’r cyfalafwyr sy’n eu cynhyrchu, y perchnogion tir sy’n gwerthu tir  ar eu cyfer, ychydig o weithwyr sy’n cael gwaith ‘dros dro’ i osod yr angenfilod yn eu lle, a Lloegr - a fydd yn derbyn y mwyafrif o’r trydan a gynhyrchir!  



Mae’r ffermydd gwynt ma’n lledaenu fel feirws ar hyd a lled Cymru ac fel petai hynny ddim yn ddigon, mae’n ofynnol i adeiladu is-orsaf ynni ar hyd a lled 20 o erwau o ‘fwynder Maldwyn’ ynghyd a byddin o beilonau 50 medr o uchder a fydd yn cysylltu 800 o felinau gwynt drwy 100 milltir o raffau cebl i’r grid ‘cenedlaethol’ h.y. ‘cenedlaethol’ yn ystyr ‘Lloegr’ ‘o genedlaethol’!



Unwaith eto. Mae tiriogaeth Cymru’n cael ei rheibio o dan ein trwynau a hynny gyda chydweithrediad llawn ein cynghorau lleol a’r gwleidyddion ym Mae Caerdydd. Mae’r ‘gwallgofrwydd’ diweddara’ ma i gymryd lle ar dir sy’n rhan o diroedd etifeddol Tywysog Owain Glyndŵr. Ar y diriogaeth yma mae olion Llys Mathrafal, sef Llys brenhinol tywysogion Powys ac, yn ogystal, ar y tir yma mae Rhyd Chwima, lle gorfodwyd Harri’r III i gydnabod Llywelyn III yn Dywysog ar Gymru ar Fedi 29, 1265. Sut all ein cynghorwyr a gwleidyddion etholedig fod mor haerllug ac amharchus o’n etifeddiaeth i allu cyd-fynd a chynllun a all ond dinistrio’r diriogaeth hanesyddol ôll-bwysig yma’n llwyr! Fy nghyngor i yw i wladgarwyr Cymreig gofio am y fradwriaeth yma pan ddaw'r etholiadau nesaf. Peidiwch â phleidleisio i’r cynghorwyr a gwleidyddion hynny sy’n gwrthod a disgyn ar eu bai ac sy’n mynnu cario’n flaen a’r cynllun neu ‘gynllwyn’ yma ta waeth i ba blaid maen nhw’n perthyn!



Roedd y brotest fawr ddydd Mawrth yn ‘ysgytwad’ i aelodau’r Cynulliad heb os, ac mae gennym ddigonedd o resymau fel cenedl i fynd yno (ac at ddrysau’r Cynghorau Sir) dro ar ôl tro i brotestio a mynnu cyfiawnder i’n pobl a’n cymunedau ond, os ydym yn mynd i wneud hynny yn effeithiol yn yr un modd a wnaed dydd Mawrth, yna mae’r rhaid i ni ddysgu uno’n gadarn fel cenedl du ôl i bob ymgyrch sydd angen ei hymladd. Tyda ni ddim mewn sefyllfa i fod yn ‘blwyfol’ parthed ein hymgyrchoedd a gweithredu yn erbyn un "cynllwyn" tra bod y baricedau i lawr ymhob man arall lle mae'r "cynllwyniau" 'ma'n cymryd lle drwy Gymru.




Cofiwch mai ein cenedl ni’r Cymry yw hi - ac arnom ni mae’r cyfrifoldeb i’w hamddiffyn. Erfyniais yn fy neges ddiwethaf ar i ‘bobl Glyndŵr a gwladgarwyr eraill gymryd ran yn y brotest dydd Mawrth. Dim ond 4 person (6 os ydych yn cyfrif baneri’r Llysgenhadaeth) ddaeth a baneri Glyndŵr i’r brotest - a diolch iddynt am wneud hynny - ac i’r cnewyllyn bach arall daeth i ddweud helo a dangos eu hwynebau - a’u cefnogaeth. Ond ‘rhag cywilydd’ i’r cannoedd o Gymry sy’n byw yng Nghaerdydd ac mewn trefi cyfagos yn y De ac a wnaeth dim ymdrech o gwbl i gefnogi! Yn arbennig gan fod llond 33 bws o ymgyrchwyr wedi teithio am 7 awr i ddod o Ganoldir Cymru! Yn eu plith, y W.I. ond ble oedd Merched y Wawr?


Roedd hyd yn oed cwn Maldwyn yn protestio; ymddengys bod ganddyn nhw mwy o synnwyr cyffredin na'r gwleidyddion!



 Siaradodd yr A/S Glyn Davies fel cenedlaetholwr cadarn yn y brotest ac fe addawodd i frwydro ‘hyd yr eithaf’ yn erbyn y ‘cynllyn gwallgof’ - fel gwnaeth Siân Lloyd ac Iolo Williams a ddwedodd iddo fod wedi cael “llond bol” ar y “Senedd o bypedau” ym Mae Caerdydd a’u cynlluniau gwallgof ar gyfer ein cenedl.

Atgoffodd Myfanwy Alexandra’r dorf mai gwlad Glyndŵr oedd o dan fygythiad a byddai hithau hefyd yn ymladd i’r eithaf i’w amddiffyn ond ymhle oedd ei chwaer, Helen Mary Jones - a ble oedd Aelodau Cynulliad eraill Blaid Cymru? Daeth Seimon Thomas allan i dderbyn telpyn o welltwair oddi wrth blant ysgol Meifod ac awgrymu yn ei araith y dylai’r protestwyr fynd i brotestio i’r Cynghorau Lleol yn ogystal ag i’r Senedd-Dŷ yn San Steffan hefyd. Y cynghorau lleol, ia, ond San Steffan? Dwi ddim yn meddwl Seimon, llanastr y Cynulliad Cymreig yw hwn a beth yw’r pwynt o gael mwy o bwerau os nad ellir dileu’r policy abswrd ma! Dylem ddim gorfod mynd ‘gap yn llaw’ i San Steffan am ddim byd byth eto! 


Dim ond y cychwyn oedd protest dydd Mawrth, bydd ymgyrchu rŵan nes bydd y polisi o osod ffermydd gwynt a’u his-orsafoedd a’r peilonau enfawr ar hyd a lled Cymru wedi ei ddileu unwaith ac am byth. Dewch i ni, fel gwladgarwyr (Cymraeg a Di-Gymraeg ein hiaith) wneud pob ymdrech sy’n gorfforol bosibl i uno mewn gwrthsafiad yn erbyn y rheibio gwallgof diweddara yma ac yn erbyn pob ‘gwallgofrwydd’ arall sy’n brysur ein dileu fel cenedl.
Cyflwynwyd deiseb i'r Cynulliad gyda 13,000 o enwau arni yn gwrthwynebu'r polisi TAN 8 - ac roedd yr enwau yma wedi cael eu casglu mewn mis! Casglwyd 500 yn ychwanegol ar diwrnod y brotest.  Dewch i ni rwan ychwanegu mwy a mwy o enwau tuag at y rhestr yma o wrthwynebwyr er mwyn dangos yn glir iawn bod y mwyafrif o bobl Cymru yn gwrthwynebu'r polisi gwallgof! Yna, cychwynwch eich ymgyrchu o ddifrif drwy fynd ati i berswadio eich cynghorwyr lleol a gwleidyddion Cymru bod yn rhaid iddynt ddisgyn ar eu bai ynghyd a hyn ac ymuno'r â'r ymgyrch i gael gwared o'r cynllyn!



Cofiwn Dryweryn…Cofiwn Fyrnwy…Cofiwn Drefaldwyn??? Cofiwn Gymru – Cenedl Glyndŵr???

Gwrandewch ar 'alwad Glyndŵr'. Gwyliwch y gwagle am fwy o newyddion parthed ymgyrchu ar bob ffrynt yng Nghenedl Glyndŵr!


Gellir cael fersiwn Saesneg o'r adroddiad a'r neges uchod ar...

tarianglyndwr.blogspot.com/
17 Aug 2010 ... Mudiad Tarian Glyndŵr campaigns against oppression of our people and expropriation of our land and its natuural resources. ...


Siân